Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
13 Chwefror 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4906
------
Ar ran holl Aelodau’r Cynulliad, cafodd Jack Sargeant ei groesawu i’r Cynulliad gan y Llywydd, ei longyfarch ar ei lwyddiant diweddar yn is-etholiad Alun a Glannau Dyfrdwy, a’i wahodd i wneud datganiad.
Dechreuodd yr eitem am 13.39.
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2
Dechreuodd yr eitem am 14.31
Dechreuodd yr eitem am 14.50
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Cynigiodd y Llywydd fod eitemau 5 a 6 yn cael eu trafod gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. Ni wrthwynebwyd hyn gan Aelod.
Dechreuodd yr eitem am 16.35
NDM6653 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2018
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6652 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM6651 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol, sy'n ymwneud â sefydlu'r un corff arweiniad ariannol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.44
NDM6649 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.23
NDM6655 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).
Gosodwyd Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Hydref 2017.
Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 31 Ionawr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.07
NDM6656 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.11
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 14 Chwefror 2018